Eisteddfod Llandudoch
Rhaglen
Guestbook
Event Calendar
Mail Form
|
Eisteddfod Llandudoch yn camu i'r dyfodol
 | Bydd Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch 2005, a gynhelir ar Fai 21ain, 2005, yn mentro i dir newydd, o'i chymharu ag eisteddfodau'r gorffennol. Er bydd y csytadlaethau i'r ifainc yn parhau yn debyg i'r gorffennol, bydd Eisteddfod yr Hwyr yn dra gwahanol - gyda nifer llai o gystadlaethau, ond yn cynnig gwobrau sy'n sylweddol fwy nag a gynigwyd yn y gorffennol. |
|
£1000 o wobr mewn cystadleuaeth Cor
Y prif wobr yn yr eisteddfod fydd £1000 i'r cor buddugol, mewn cystadleuaeth lle gofynnir iddynt gyflwyno rhaglen tua 15 munud o hyd. Noddir y gystadleuaeth hon gan Mr Ian Gollop o Landudoch sy'n cyfrannu'r £1000 i'r eisteddfod am y pum mlynedd nesaf.
Enw'r gsytadleuaeth fydd 'Cor Llandudoch', a gofynnir i gystadleuwyr gyflwyno rhaglen na chymer mwy na 12 munud i'w pherfformio. Bydd y buddugol yng Nghystadleuaeth Cor Llandudoch yn derbyn £1000, a'r ail yn ennill £500.
Am fwy o fanylion, cysyllter gyda Cadeirydd Eisteddfod Llandudoch, Terwyn Tomos (01239 612928) neu'r Ysgrifenyddes, Mrs Melrose Thomas (01239 615196).
Gellwch hefyd gysylltu ar e-bost :
eisteddfodllandudoch@hotmail.com
|
This page has been visited times.
|