Rhaglen 2005
Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch 2005
Dydd Sadwrn, Mai 21ain, 2005
yng Nghanolfan Goffa Llandudoch
Cystadlaethau Llenyddol (Dyddiad Cau : Ebrill 23ain)
Cerdd y Gadair : Cerdd neu ddilyniant o gerddi, caeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar un o’r testunau canlynol: Tonnau, Yr Ogof, neu Eiliadau
Gwobr : Cadair fechan a £50.00
Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc dan 18 oed: Dau ddarn gwreiddiol mewn ffurfiau gwahanol (e.e. stori fer, cerdd, ymson, ysgrif ac ati)
Tlws Drama : Comedi fer nas perfformiwyd, na chymer fwy na 45 munud i’w pherfformio. Gwobr : £75.00
Telyneg : ar y thema Amser
Englyn : Pysgotwr
Englyn Ysgafn : Mentro
Cywydd : Cywydd coffa i Gymro neu Gymraes
Soned : Dathlu
Cystadleuaeth Arbennig : Englyn neu Hir a Thoddaid i ‘Abaty Llandudoch’, addas i’w arddangos yn oriel newydd yr Abaty.
Cerdd mewn tafodiaith : Agored
Casgliad o 6 chwpled epigramatig
Barddoniaeth 12-15 oed :
Limrig yn cynnwys y llinell “Ni welwyd erioed y fath ddathlu”
Stori Fer/Darn o Ryddiaith 12-15 oed : Agored
Stori Fer : Agored
Rhyddiaith dros 50 oed : Agored
Cystadleuaeth CLEBRAN : Naill ai atgofion am fyw mewn unrhyw ardal, neu erthygl addas i’w chynnwys mewn Papur Bro
Cystadleuaeth i oedolion sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ail iaith : Lythyr neu ddyddiadur wedi ei seilio ar daith.
Cyfansoddi emyn-dôn i eiriau emyn buddugol 2004 (ar gael gan yr ysgrifennydd).
Cyfansoddiadau (dan ffugenw, gyda enw a chyfeiriad cywir mewn amlen dan sêl) i Ysgrifennydd yr Eisteddfod :
Mrs Melrose Thomas, Dychwelfa, Heol Finch, Llandudoch, Sir Benfro neu ar e-bost i : eisteddfodllandudoch@hotmail.com
|